Alain-Fournier
Alain-Fournier oedd ffugenw y nofelydd o Ffrainc, Henri Alban-Fournier (3 Hydref 1886 - 22 Medi 1914). Ystyrir ei unig nofel, ''Le Grand Meaulnes'' (1913), yn glasur.Ganed Alain-Fournier yn La Chapelle-d'Angillon, yn ''département'' Cher. Bu'n ysgrifennu beirniadaeth lenyddol i'r cylchgrawn ''Paris-Journal'' o 1910 ymlaen, yna'n gynorthwydd personol i'r gwleidydd Casimir Perrier. Gorffennodd ''Le Grand Meaulnes'' yn gynnar yn 1913, ac fe'i cyhoeddwyd yn y Nouvelle Revue Française rhwng Gorffennaf a Hydref, cyn ei gyhoeddi fel llyfr.
Ymunodd a'r fyddin pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Awst 1914. Fe'i lladdwyd fis yn ddiweddarach, mewn brwydr ger Vaux-lès-Palameix. Cyhoeddwyd ei weithiau llenyddol eraill wedi ei farwolaeth. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15