André Malraux

Llenor a gwleidydd o Ffrainc oedd André Malraux, enw llawn Georges André Malraux (3 Tachwedd 1901 - 23 Tachwedd 1976).

Ganwyd ef yn ninas Paris. Gwahanodd ei rieni pan oedd yn bedair oed, ac ni chafodd addysg uwch. Roedd i raddau helaeth yn hunan-addysgedig. Aeth i drefedigaethau Ffrainc yn Indo-Tsieina, lle sefydlodd gylchgrawn gwrth-imperialaidd. Carcharwyd ef yn 1923-1924 am ddelio mewn hynafiaethau yn Phnom Penh; defnyddiodd y profiad yn ei waith diweddarach ''La Voie royale'' (1930). Ymladdodd yn Rhyfel Cartref Sbaen dros y Gweriniaethwyrm ac yn erbyn yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd fel aelod o'r Résistance Ffrengig. Wedi'r rhyfel, daeth yn un o gefnogwyr Charles de Gaulle, a bu'n Weinidog Diwylliant rhwng 1959 a 1969, er ei fod yn parhau i gael ei ystyried yn rhan o'r adain chwith. Claddwyd ef yn y Panthéon ym Mharis. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 43 ar gyfer chwilio 'André Malraux', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20