Bernardo Atxaga

Awdur a llenor o Wlad y Basg yw Bernardo Atxaga (ganwyd 27 Gorffennaf 1951) (defnyddia'r ffugenw Joseba Irazu Garmendia).

Ganwyd Atxaga yn Asteasu, Gipuzkoa, Gwlad y Basg. Derbyniodd ddiploma mewn economeg oddi wrth Brifysgol Bilbo, ac fe astudiodd athroniaeth ym Mhrifysgol Barcelona. Gweithiodd fel economegydd, gwerthwr llyfrau, Athro ar yr iaith Fasgeg, cyhoeddwr, ac ysgrifennwr sgriptiau ar gyfer y radio hyd at 1980 pan ymroddodd ei hun yn llwyr i ysgrifennu.

Cyhoeddwyd ei waith cyntaf, sef antholeg am awduron Basgeg, yn 1972. Cyhoeddwyd ei stori fer gyntaf, ''Ziutateaz'' ("Am y Ddinas"), yn 1976. Ymddagosodd ei gasgliad cyntaf o gerddi, ''Etiopia'' ("Ethiopia"), yn 1978. Mae wedi ysgrifennu dramau, geiriau i ganeuon, nofelau a straeon byrion. Daeth ei lyfr o straeon byrion, ''Obabakoak'' ("Unigolion a phethau o Obaba"), a gyhoeddwyd yn 1988, â llawer o amlygrwydd a gwobrau iddo, gan gynnwys Gwobr Lenyddol Genedlaethol Sbaen. Mae'r llyfr wedi ei gyfieithu i fwy na 20 iaith.

Fel rheol, fe ysgrifenai Atxaga yn y Fasgeg a chyfieithu ei waith i'r Sbaeneg. Yn dilyn ''Obabakoak'', mae nifer o'i waith wedi eu trosi i ieithoedd eraill.

Mae'n byw yn Reno, UDA ar hyn o bryd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Bernardo Atxaga', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1