FIDE

Mae'r Fédération Internationale des Échecs neu Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd yn sefydliad rhyngwladol sy'n cysylltu'r gwahanol ffederasiynau gwyddbwyll cenedlaethol ar draws y byd ac yn gweithredu fel corff rheoli cystadlaethau gwyddbwyll rhyngwladol. Defnyddir yr acronym Ffrangeg FIDE i gyfeirio at y sefydliad fel arfer.

Fe'i sefydlwyd ym Mharis, Ffrainc ar 20 Gorffennaf 1924. Ei arwyddair yw ''Gens una sumus'', sy'n Lladin am "Un bobl ydym ni".

Mae Undeb Gwyddbwyll Cymru yn aelod llawn o FIDE ers 1970. Cod gwlad rhyngwladol FIDE ar gyfer Cymru yw WLS. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'FIDE', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1