G. E. Moore

Athronydd o Loegr oedd G. E. Moore (4 Tachwedd 187324 Hydref 1958) oedd yn ddylanwadol yn athroniaeth Realaidd ac yn aelod o'r grŵp Bloomsbury. Ynghyd â Bertrand Russell a Ludwig Wittgenstein, fe drodd Goleg y Drindod, Caergrawnt yn ganolfan i athroniaeth ddadansoddol yn hanner cyntaf yr 20g.

Cafodd ei eni a'i fagu yn ne Llundain. "George Edward" oedd ei enwau cyntaf, ond nid oedd yn hoff o'r rhain a fe wrthododd eu defnyddio. Yn ddiweddarach, cafodd ei alw'n Bill gan ei wraig. Astudiodd Glasuron yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, ac ychwanegodd athroniaeth at ei radd wedi iddo ymgyfeillio â Bertrand Russell a J. M. E. McTaggart. Enillodd gymrodoriaeth yng Ngholeg y Drindod ym 1898, ac astudiodd yno hyd 1904.

Cyhoeddodd ei brif waith ar foeseg, ''Principia Ethica'', ym 1903. Trigodd am gyfnod yng Nghaeredin a Llundain cyn iddo ddychwelyd i Gaergrawnt ym 1911. Addysgodd fel athro athroniaeth o 1925 hyd 1939. O 1921 hyd 1944 Moore oedd golygydd y cyfnodolyn athroniaeth ''Mind''. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 6 canlyniadau o 6 ar gyfer chwilio 'G. E. Moore', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6