H. G. Wells
bawd|Wells c. 1890. Nofelydd yn yr iaith Saesneg oedd Herbert George Wells (21 Medi 1866 - 13 Awst 1946). Roedd yn fwy adnabyddus o dan yr enw H. G. Wells a chaiff ei ystyried fel un o'r llenorion gwyddonias cyntaf. Yn aml, cyfeirir at Wells a Jules Verne fel "Tadau Gwyddonias".Roedd Wells yn heddychwr ac yn sosialydd blaengar, a daeth ei weithiau diweddarach yn fwyfwy gwleidyddol. Roedd ei nofelau o ganol y cyfnod yr ysgrifennai (1900-1920) yn fwy realistig; ymdrinient â bywydau'r bobl ar waelod y dosbarth canol (The History of Mr Polly) a'r 'New Woman' a'r Suffragettes (Ann Veronica). Roedd yn ysgrifennwr toreithiog mewn nifer o ffurfiau ysgrifennu gwahanol, gan gynnwys nofelau cyfoes, hanesyddol a sylwebaeth gymdeithasol. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6
-
7
-
8
-
9
-
10
-
11
-
12
-
13
-
14
-
15
-
16
-
17
-
18
-
19
-
20