Isabel Allende

Awdures o Tsile yw Isabel Allende Llona (ganwyd 2 Awst 1942 yn Lima, Periw). Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar brofiadau menywod ac mae hi'n cymysgu realaeth a dychymyg i greu realaeth hudol (''Magical Realism''). Ymhlith ei gwaith mwyaf nodedig mae ''The House of the Spirits'' (''La casa de los espíritus'', 1982) a ''City of the Beasts'' (''La ciudad de las bestias'', 2002), a oedd hefyd yn llwyddiant o ran gwerthiant y llyfrau. Credir mai Allende yw'r "awdur sydd wedi gwerthu mwyaf o lyfrau Sbaeneg o'i chenehedlaeth".

Ganwyd Isabel Allende yn Lima, Periw, am fod ei thad, Tomás Allende; yn llysgennad Tsile i Periw. Cefnder ei thad oedd Salvador Allende, Arlywydd Tsile o 1970 i 1973. Yn 1945, symudodd y teulu yn ôl i Santiago, Tsile, tan 1953 pan ailbriododd ei mam hi â Ramón Huidobro (diplomydd arall) a symudon nhw i Bolifia, a Beirut cyn dychwelyd i Tsile yn 1958.

Priododd Miguel Frías yn 1962, a tan 1965 bu Allende yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig. Cawson nhw ferch yn 1963 a mab yn 1966. Cyflawnodd waith mam, diplomydd. Erbyn 1988, priododd Allende â gwr o Unol Daleithiau America, Willie Gordon. Daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau yn 2003. Erbyn heddiw mae hi'n byw yn San Rafael, Califfornia. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 189 ar gyfer chwilio 'Isabel Allende', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20