Jean Piaget

Seicolegydd o'r Swistir oedd Jean Piaget (9 Awst 189616 Medi 1980). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei ddamcaniaeth datblygiad gwybyddol mewn plant.

Gwelodd Piaget bedwar prif gyfnod o ddatblygiad mewn plentyndod:

# Y cyfnod cynhwyraidd-symudol (0–2 oed) – Mae plant yn defnyddio'u synhwyrau a'u symudiadau i ddarganfod eu hunain a'u hamgylchedd. # Y cyfnod cyn-weithredol (2–7 oed) – Mae plant yn dysgu drwy brofiadau gyda gwrthrychau go iawn. Maent yn credu bod gan wrthrychau ymwybyddiaeth. Maent yn methu ag amgyffred cyfaint a rhifau. # Y cyfnod gweithredol diriaethol (7–11 oed) – Mae plant yn dal i ddysgu drwy brofiadau gyda gwrthrychau go iawn. Nid ydynt yn credu bod gan wrthrychau ymwybyddiaeth erbyn hyn. Maent yn deall nifer a hyd. # Y cyfnod gweithredol ffurfiol (12 – oedolyn) – Mae plant yn datblygu cysyniadau haniaethol, ac yn gallu defnyddio rhesymeg a meddwl yn rhesymegol.

Enillodd Wobr Erasmus ym 1972. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 41 ar gyfer chwilio 'Jean Piaget', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20