Margaret Atwood

Bardd, awdur, beirniad, ffeminist ac ymgyrchydd cymdeithasol o Ganada yw Margaret Eleanor Atwood (ganed 18 Tachwedd 1939). Mae hi ymhlith yr awduron ffuglen i gael ei gwobrwyo fwyaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf: enillodd Wobr Arthur C. Clarke a Gwobr Tywysog Asturias am Lenyddiaeth, a bu ar restr fer y Wobr Booker ar bum achlysur, gan ennill unwaith. Mae'n enwog am ei gwaith fel nofelydd yn bennaf, tra bod ei cherddi yn cael eu hysbrydoli gan chwedlau a straeon tylwyth teg, sydd wedi bod o ddiddordeb iddi er pan oedd yn blentyn bach. Mae Atwood hefyd wedi cyhoeddi straeon byrion yn y ''Tamarack Review'', ''Alphabet'', ''Harper's'', ''CBC Anthology'', ''Ms.'', ''Saturday Night'', ''Playboy'', a nifer o gylchgronau eraill. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 26 ar gyfer chwilio 'Margaret Atwood', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20