Max Weber

Cymdeithasegydd o'r Almaen oedd Maximilian Carl Emil Weber (21 Ebrill 186414 Mehefin 1920). Ganed ef yn Erfurt yn Thuringia, yn blentyn hynaf i Max Weber, gwleidydd rhyddfrydol a gwas sifil. Dechreuodd ei yrfa ym Mhrifysgol Berlin, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio ym mhrifysgolion Freiburg, Heidelberg a München.

Roedd prif ddiddordebau Weber yn ymwneud â chymdeithaseg crefydd a llywodraeth. Ei gyhoeddiad pwysicaf oedd ''Yr Ethig Protestannaidd ac Ysbryd Cyfalafiaeth'', lle mae'n dadlau fod crefydd yn un o'r rhesymau pwysicaf am y gwahaniaethau yn natblygiad diwylliannau y gorllewin a'r dwyrain. Ei ddamcaniaeth oedd fod nodweddion Protestaniaeth wedi arwain at ddatblygiad cyfalafiaeth.

Mewn gwaith arall, ''Gwleidyddiaeth fel Galwedigaeth'', diffiniodd Weber y wladwriaeth fel y corff sy'n hawlio monopoli ar ddefnydd cyfreithlon grym, diffiniad sydd wedi dod yn allweddol i wyddor gwleidyddiaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 17 canlyniadau o 17 ar gyfer chwilio 'Max Weber', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17