Montserrat Roig

Roedd Montserrat Roig (13 Mehefin 1946 - 10 Tachwedd 1991) yn awdur nofelau, straeon byrion ac erthyglau o Gatalwnia. Roedd yn aelod o Gymdeithas Llenorion yr Iaith Gatalaneg ac yn is-lywydd ei ''Junta Territorial del Principat de Catalunya''. Gweithiodd fel darlithydd mewn Catalaneg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Bryste yn ystod y flwyddyn academaidd 1972-1973. Roedd Roig yn ffeminydd ac ar yr asgell chwith o wleidyddiaeth. Yn ferch ifanc, cymerodd ran ym mudiadau protest y myfyrwyr ym mlynyddoedd olaf Ffranco. Roedd hi ymhlith y llu o bobol deallusol Catalaneg a ymgynullodd ym mynachlog Montserrat i brotestio yn erbyn achos llys Burgos yn 1970.

Ganwyd hi yn Barcelona yn 1946 a bu farw yn Barcelona yn 1991. Roedd hi'n blentyn i Tomàs Roig i Llop ac Albina Fransitorra Aleñà. Priododd hi Joaquim Sempere. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1 ar gyfer chwilio 'Montserrat Roig', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1