Olga Tokarczuk

Nofelydd, awdur straeon byrion, a bardd o Bwyles yw Olga Nawoja Tokarczuk (ganwyd 29 Ionawr 1962) sy'n un o lenorion mwyaf llwyddiannus y wlad. Yn 2018, enillodd y Wobr Ryngwladol Man Booker am ei nofel ''Bieguni''. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel 2018 am ei "dychymyg traethiadol sydd, gydag angerdd hollgynhwysfawr, yn cynrychioli croesi ffiniau fel ffurf ar fyw". Cyhoeddwyd y wobr honno yn 2019, wedi i sgandal orfodi Academi Sweden i ohirio'r wobr yn 2018.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf yn 1993. Mae ei ffuglen hi yn aml yn cyfuno pynciau hanesyddol â themâu cyfriniol. Cyd-ysgrifennodd Tokarczuk, gyda'r gyfarwyddwraig Agnieszka Holland, y sgript ar gyfer y ffilm ''Potok'' (2017), sy'n addasiad o'i nofel ''Prowadź swój pług przez kości umarłych'' (2009). Mae Tokarczuk hefyd yn ymgyrchydd gwleidyddol amlwg ac yn gwrthwynebu llywodraeth adain-dde Gwlad Pwyl. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 16 canlyniadau o 16 ar gyfer chwilio 'Olga Tokarczuk', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16