Samuel Beckett

Dramodydd a bardd o Iwerddon a ysgrifennodd yn Ffrangeg a Saesneg oedd Samuel Barclay Beckett (13 Ebrill 190622 Rhagfyr 1989). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1969.

Ganed ef yn Foxrock, ar gyrion Dulyn. Astuddiodd Ffrangeg, Eidaleg a Saesneg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn o 1923 hyd 1927. Wedi graddio cafodd swydd ''lecteur d'anglais'' yn yr École Normale Supérieure ym Mharis, lle daeth i adnabod James Joyce.

Cyhoeddodd ei draethawd cyntaf, ''...Bruno. Vico..Joyce'', yn 1929. Yn 1930 dychwelodd i Goleg y Drindod fel darlithydd, ond ymddiswyddodd y flwyddyn wedyn. Ysgrifennodd ei nofel gyntaf, ''Dream of Fair to Middling Women'', yn 1932, ond ni allodd gael cyhoeddwr iddi. Yn 1935, cyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth, ''Echo's Bones and Other Precipitates''. Bu'n teithio llawer yn Ewrop, a chyhoeddodd nofel ''Murphy'' yn 1938.

Bu'n aelod o'r ''Résistance'' Ffrengig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a chyflwynodd y llywodraeth y Croix de guerre a'r Médaille de la Résistance iddo ar ddiwedd y rhyfel. Rhwng Hydref 1948 a Ionawr 1949 bu'n gweithio ar ei ddrama enwocaf, ''En attendant Godot''. Cyhoeddwyd hi yn 1952, a bu'r perfformiad cyntaf yn 1953. Aeth ymlaen i ysgrifennu nifer o ddramau eraill.

Bu farw ar 22 Rhagfyr 1989 a chladdwyd ef yn y Cimetière du Montparnasse ym Mharis. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 29 ar gyfer chwilio 'Samuel Beckett', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20