Sigmund Freud

Niwrolegydd a seiciatrydd Iddewig o Awstria oedd Sigmund Freud (IPA: ˈziːkmʊnt ˈfʁɔʏt; ganed Sigismund Schlomo Freud; 6 Mai 185623 Medi 1939; . Fe sefydlodd wyddor seicdreiddiad, ac fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar yr meddwl anymwybodol (ac am ataliad yn benodol), ei ail-ddiffiniad o chwenychiad rhywiol, a'i dechneg therapi (gan gynnwys dadansoddi breuddwydion). Mae olion ei waith i'w weld o hyd mewn llenyddiaeth, ffilm, damcaniaethau Marcsaidd a Ffeministaidd, Swrealaeth ac athroniaeth yn ogystal â seicoleg. Er hyn, erys lawer o'i ddamcaniaethau'n ddadleuol iawn.

Tadcu y darllediadwr Clement Freud oedd ef.

Un o'i gydweithwyr agosaf oedd y Cymro Ernest Jones a oedd yn ŵr i Morfudd Llwyn Owen. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 24 ar gyfer chwilio 'Sigmund Freud', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20