Steven Spielberg

Cyfarwyddwr ffilm o'r Unol Daleithiau yw Steven Allen Spielberg KBE (ganwyd 18 Rhagfyr 1946). Yn 2006, rhestrodd cylchgrawn Premiere ef fel y person mwyaf pŵerus a dylanwadol ym myd ffilmiau. Rhestrodd cylchgrawn ''Time'' ef fel un o'r 100 o Bobl Mwyaf y Ganrif. Ar ddiwedd yr 20g, cafodd ei enwi gan gylchgrawn ''Time'' fel un o gymeriadau mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros bedwar degawd, mae ffilmiau Spielberg wedi ymdrin â nifer o themâu gwahanol. Gwelwyd ffilmiau cynharaf Spielberg, sef ffilmiau gwyddonias ac antur (yn aml yn canolbwyntio ar blant), fel y ddelfryd o ffilmiau mawrion Hollywood. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, dechreuodd ei ffilmiau ymdrin â themâu fel yr holocost, caethwasiaeth, rhyfel a therfysgaeth.

Enillodd Spielberg Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau am ''Schindler's List'' (1993) a ''Saving Private Ryan'' (1998). Torrodd tair o ffilmiau Spielberg y record mewn sinemau am faint o arian a wnaethant, sef ''Jaws'' (1975), ''E.T. the Extra-Terrestrial'' (1982), a ''Jurassic Park'' (1993). Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 25 ar gyfer chwilio 'Steven Spielberg', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20