Vicente Huidobro
Bardd, dramodydd, ac ysgrifwr o Tsile yn yr ieithoedd Sbaeneg a Ffrangeg oedd Vicente García Huidobro Fernández (10 Ionawr 1893 – 2 Ionawr 1948) a oedd yn llenor nodedig yr ''avant-garde'' yn llên America Ladin. Sefydlodd y mudiad esthetaidd ''creacionismo'', sy'n pwysleisio dyletswyddau arbrofol y bardd. Ystyrir y gerdd hir ''Altazor'' (1931) yn gampwaith Huidobro. Darparwyd gan Wikipedia-
1
-
2