Luigi Pirandello

Llenor a dramodydd o'r Eidal oedd Luigi Pirandello (Agrigento, 28 Mehefin 1867Roma, 10 Rhagfyr 1936), ac enillydd Gwobr Lenyddol Nobel ym 1934. Cyfieithwyd ei waith i nifer o ieithoedd y byd. Un o'i ddramâu enwocaf yw ''Sei personaggi in cerca d'autore'', 1921. Mae cyfieithiad Cymraeg ar gael, sef ''Chwe Chymeriad yn chwilio am Awdur'', cyfieithwyd gan Dyfnallt Morgan ac Eleri Morgan a cyhoeddwyd gan Lys yr Eisteddfod ym 1981.

Ganwyd Pirandello ym mhentre Kaos, maesdref i Agrigento, yn ne Sisili i deulu cyfforddus eu byd. Symudodd y teulu wedyn i Palermo lle cafodd addysg da. Aeth wedyn i astudio yn Rhufain ond roedd rhaid iddo fe adael cyn graddio. Aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bonn yn yr Almaen. Darllenodd waith Heinrich Heine, a Goethe. Cyhoeddodd waith seiliedig ar waith Goethe, yr ''Elegie Boreali'' tra yno. Ym Mawrth 1891, enillodd ei Ddoethuriaeth. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 22 ar gyfer chwilio 'Luigi Pirandello', amser ymholiad: 0.01e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20