Maya

Pobl sy'n byw yn ne Mecsico a rhan ogleddol Canolbarth America yw'r Maya (Maya Yucateg: ''maaya'ob'', Sbaeneg: ''mayas''). Heddiw, mae rhwng 8 a 9 miliwn ohonynt, yn perthyn i 29 grŵp ethnig gwahanol. Ceir 6 miliwn yn Gwatemala, 2,5 miliwn yn Mecsico a rhai miloedd yn El Salvador, Belîs a Hondwras. Yn y cyfnod cyn i'r Ewropeaid gyrraedd yr ardaloedd hyn, roedd Gwareiddiad y Maya yn un o wareiddiadau mawr cyfandir America.

300px|bawd|canol|Tiriogaethau'r Maya a'i hen ddinasoedd pwysicaf

Credir fod y Maya wedi datblygu diwylliant unigryw erbyn tua 2000 CC yn y Sierra de los Cuchumatanes yng ngorllewin Guatemala. Nid yw'n eglur ymhle roedd y ffin rhwng y Maya a'u cymdogion, yr Olmec yn y cyfnod hwnnw. Ceir adeiladau yn dyddio o'r 3 CC yn Cival yn Guatemala. Yn ddiweddarach, datblygodd dinasoedd enwog Tikal, Palenque, Copán a Calakmul.

Seilid y diwylliant ar amaethyddiaeth ddatblygedig. Ymhlith yr olion mae pyramidau a phalasau. Ystyrir eu cerfluniau o'r cyfnod clasurol (tua 200-1200) ymhlith celfyddyd orau y cyfandir. Roedd eu hysgrifen yn dilyn egwyddor debyg i ysgrifen hieroglyffig yr Hen Aifft.

Dechreuodd diwylliant y Maya ddirywio o'r 8g ymlaen, gyda nifer o ddinasoedd yn mynd yn anghyfannedd. Ceir rhywfaint o dystiolaeth archaeolegol am ryfeloedd yn y cyfnod hwn. Parhaodd y diwylliant ar benrhyn Yucatán ac ucheldiroedd Guatemala. Ymhlith dinasoedd enwog Yucatán roedd Chichén Itzá, Uxmal, Edzná a Cobá. Yn ddiweddarach, daeth dinas Mayapan i reoli'r Yucatán, hyd nes bu gwrthryfel yn ei herbyn yn 1450.

bawd|dim|240px|Pyramid yn Comalcalco Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 20 canlyniadau o 27 ar gyfer chwilio 'Maya', amser ymholiad: 0.02e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20